English
» Adran Ohio


The Cambrian: Cylchgrawn i Gymry America, 1880-1919

  1. Pam cyhoeddi'r Cambrian?
  2. Cyhoeddi Cymreig yn America
  3. Llwyddiant cynnar
  4. Y cylchgrawn yn aeddfedu
  5. 1896 - Trobwynt arall
  6. The Cambrian a'i gynnwys
  7. Erthyglau Hanesyddol
  8. Erthyglau Bywgraffyddol
  9. Cyfeiriaduron y Cambrian
  10. Erthyglau i bawb
  11. Pwy oedd cynulleidfa'r Cambrian?
  12. Llwyddiant y Cambrian.
  13. Beth yw pwysigrwydd y Cambrian heddiw?

Ym more oes y Cambrian yn 1880, menter bersonol y Parch. Daniel I. Jones oedd y cylchgrawn, ac fe'i cyhoeddwyd yn ddeufisol yn Cincinnati, Ohio. Wrth i'r cylchgrawn dyfu, gan ddod yn gyhoeddiad misol ac yna'n bythefnosol, lledaenodd ei ddylanwad tros Gymry America.

Darllenwyd y Cambrian gan unigolion ar draws y Taleithiau Unedig. O dalaith New York, Pennsylvania ac Ohio hyd at daleithiau gorllewinol megis California, Washington a Cholorado, daethpwyd â gwlad eang o Gymry America ynghyd yn ei dudalennau.

Cyhoeddwyd y Cambrian am gyfanswm o 39 mlynedd, ac mae hynny'n brawf o'i lwyddiant a'i ddylanwad pellgyrhaeddol.

Pam cyhoeddi'r Cambrian?

The CambrianRoedd amryw o resymau tros gyhoeddi'r Cambrian. Ym mis Ionawr 1880, pan gyhoeddwyd rhifyn cyntaf y Cambrian, y Parch. Daniel I. Jones o Cincinnati, Ohio oedd golygydd, cyhoeddwr a pherchennog y cylchgrawn. Yn y rhifyn cyntaf hwnnw, datganodd yn glir pam yr oedd wedi dwyn allan y cyhoeddiad newydd.

Yn ei farn ef roedd angen cyhoeddiad o'r fath, i fod yn gofnodydd o bob peth Cymreig yn America. Amcan ei gylchgrawn newydd oedd rhoi hanesion yr ymfudo a'r ymsefydlu Cymreig yn ogystal â chasglu bywgraffiadau o'r holl Gymry amlwg, a'u disgynyddion, ym mywyd cyhoeddus America. Roedd wynebddalen y Cambrian yn datgan yn glir ei fod yn gylchgrawn oedd yn "Ymrwymedig i Hanes, Bywgraffiaeth a Llenyddiaeth."

Poenai Daniel Jones y byddai Cymry America yn anghofio'u gorffennol fel cenedl. Yn sgil ei waith fel gweinidog, teithiai i nifer o gymunedau Cymreig mewn amryw o daleithiau. Yn ôl ei brofiadau personol, roedd yn amlwg iddo nad oedd yr iaith Gymraeg mor gryf ag y bu o fewn rhai cymunedau Cymreig yn America.

Roedd angen felly am gyhoeddiad oedd yn adlewyrchu cymdeithas gyfoes Cymry America yn ogystal â bod yn geidwad i'w hanes. Dyma pam y cyhoeddwyd y Cambrian yn gyfan gwbl yn Saesneg, a hynny'n wahanol i'r rhan helaeth o'r cyhoeddiadau Cymreig eraill yn America.

Cyhoeddi Cymreig yn America.

Ar yr un adeg ag yr oedd y Cambrian yn llewyrchus, nid oedd prinder cyhoeddiadau Cymreig yn America. Yn eu plith, gan enwi dim ond ychydig o'r cyhoeddiadau mwyaf llwyddiannus, roedd:

  • Y Cenhadwr Americanaidd
  • Y Cyfaill
  • Y Wawr
  • Y Columbia

Roedd eisoes rhai cyhoeddiadau hyn megis Cymro America, Y Wasg a Baner America a gyhoeddwyd yn rhannol trwy'r Saesneg, ond a oedd yn bennaf yn y Gymraeg.

Yn ddi-os y cyhoeddiad mwyaf dylanwadol yn America Gymreig oedd Y Drych. Cyhoeddiad wythnosol Y Drych oedd prif bapur newydd nifer o Gymry America. Hwn oedd y cyhoeddiad gyda'r gynulleidfa ehangaf ymysg cymunedau ac unigolion ar draws nifer o daleithiau. Dyma oedd eu prif ffynhonnell newyddion o'r ddwy ochr i'r Iwerydd, yn ogystal â bod yn gysur i nifer o ymfudwyr Cymreig newydd. Yn ddiweddarach byddai llwyddiant y Cambrian yn arwain at ddatblygu perthynas agos gyda'r Drych.

Y Drych Roedd gan Y Drych gefnogaeth gref gan Gymry America a oedd yn deall ac yn gallu darllen y Gymraeg; bwriad y Cambrian oedd gwasanaethu'r miloedd o bobl yn y Taleithiau Unedig o dras Gymreig nad oedd yn siarad yr iaith. Ym marn Daniel Jones, roedd y syniad hwn yn hollbwysig i lwyddiant y cylchgrawn ac iddo fod o'r defnyddioldeb gorau. Nid oes amheuaeth ychwaith fod y penderfyniad i gyhoeddi'r Cambrian yn Saesneg wedi ymestyn ei oes ac wedi ehangu ei ddylanwad yn America Gymreig.

Llwyddiant cynnar

Yn y cyd-destun hwn y dyfalbarhaodd y Parch. Daniel I. Jones i greu llwyddiant o'r Cambrian. Cymerodd ddwy flynedd i gyhoeddi'r chwe rhifyn yng nghyfrol gyntaf 1880-1881, a hynny yn sgil ymdrechion y golygydd i hyrwyddo ei gylchgrawn newydd. Teithiodd i nifer o gymunedau Cymreig er mwyn canfasio tros y cylchgrawn gan sicrhau cynulleidfa a rhestr o danysgrifwyr fyddai'n ddigon cryf i'w gefnogi yn y blynyddoedd cynnar.

Erbyn 1884, cyhoeddiad misol oedd y Cambrian, a chreodd y cyhoeddwr rwydwaith o asiantau er mwyn gwerthu a chasglu tanysgrifiadau'r cylchgrawn. Roedd llawer o'r rhain yn fyfyrwyr yng Ngholeg Marietta, Ohio, a gwnaethant lawer i gynyddu cylchrediad y cylchgrawn yn Ohio a Phennsylvania. Mewn dim o dro gallai'r Cambrian hawlio tanysgrifwyr o West Virginia, Missouri, Illinois, Colorado a Chaliffornia. Yn Y Drych, Chwefror 24ain 1881, canodd W. J. Jones glodydd golygydd y Cambrian, a'i ymdrech fawr yn dwyn allan y cyhoeddiad.

Y cylchgrawn yn aeddfedu

Daniel I. JonesYn 1886, penderfynodd y Parch. Daniel I. Jones werthu'r cylchgrawn, gan derfynu ei gyfnod fel golygydd. Gosododd seiliau cadarn i ddyfodol tymor hir y cylchgrawn; adeiladwyd ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd canlynol gan ei olynydd, y Parch. Edward C. Evans o Remsen, Talaith New York.

O fis Hydref 1886 ymlaen, golygydd, cyhoeddwr a pherchennog y Cambrian oedd Edward C. Evans. Byddai'n parhau yn y rôl honno am y degawd canlynol, gan ehangu apêl a phroffesiynoldeb y cylchgrawn. Yn wr busnes craff, symudodd bencadlys y Cambrian o Cincinnati, i'w argraffu yn Utica, Talaith New York. Yno fe'i argraffwyd gan gyfleusterau'r enwog T. J. Griffiths, argraffwr papurau newydd Cymreig yn America fel Y Drych, yn ogystal â channoedd o lyfrau Cymreig Americanaidd.

Edward C. EvansYn y cyfnod hwn, roedd y Cambrian yn gylchgrawn ffyniannus a gyhoeddwyd fel rhifyn 32 tudalen yn rheolaidd ar ddechrau pob mis. Ehangodd amrywiaeth y cylchgrawn i gynnwys nifer o drafodaethau gwyddonol a chrefyddol. Cadwyd hefyd at amcanion gwreiddiol y Cambrian, sef casglu hanes a bywgraffiaeth Cymry America.

Yn nhudalennau cyhoeddiadau eraill, fel Y Drych, fe hysbysebwyd y Cambrian yn amlycach. Daeth yn bosibl i grwpiau o ddeg neu fwy danysgrifio am $1 yr un yn unig, a thanysgrifio i'r Cambrian ynghyd â chyhoeddiadau eraill am bris gostyngedig.

1896 - trobwynt arall

Yn 1896, cyrhaeddodd y Cambrian drobwynt arall yn ei hanes. Penderfynodd y Parch. Edward C. Evans werthu'r cylchgrawn i'w argraffydd, T. J. Griffiths. Ef yn ogystal fyddai'r perchennog a'r cyhoeddwr.

Yn ystod y blynyddoedd hyn newidiwyd y cylchgrawn mewn sawl ffordd. Derbyniodd y Cambrian ddiwyg ac egni newydd yng nghyfleusterau argraffu proffesiynol T. J. Griffiths. Yn 1909, datganodd ef ei fod,

" . . . yn benderfynol y bydd y Cambrian, mewn diwyg a chynnwys, cystal â'r cylchgronau Americanaidd gorau."

The CambrianGwnaeth lawer o newidiadau yn sgil y penderfynoldeb hwn. Daeth y Cambrian yn gylchgrawn pythefnosol, yn rhifynnau byrrach 16 tudalen o hyd ar bapur o ansawdd da. Rhoddwyd adfywiad i nerth bywgraffyddol y Cambrian gyda chofiannau, bywgraffiadau ac ysgrifau coffa oll yn elfennau pwysig o'r cyhoeddiad.

Yn yr un cyfnod, cynigiwyd pris arbennig i unigolion a theuluoedd a ddymunai ddarllen Y Drych a'r Cambrian. Gellid tanysgrifio i'r ddau gyhoeddiad am $2.50 y flwyddyn.

The Cambrian a'i gynnwys

Roedd tebygrwydd yng nghynnwys y Cambrian i'r cynnwys yng nghyhoeddiadau eraill America Gymreig. Roedd ynddo erthyglau bywgraffyddol a hanesyddol, yn ogystal ag elfennau megis:

Trwy gydol oes y Cambrian, elfennau amlycaf y cyhoeddiad oedd yr erthyglau bywgraffyddol a hanesyddol. Yn amlach na pheidio rhoddwyd lle blaenllaw i'r rhain ar dudalennau blaen y cylchgrawn.

Erthyglau Hanesyddol

Un enghraifft o erthygl hanesyddol yw'r gyfres o erthyglau, "Paddy's Run, Butler County, Ohio". Dyma enghraifft dda o amcanion y Cambrian i gofnodi hanes yr ymfudo a'r ymsefydlu ar dir newydd, gan nodi hefyd hanesion diweddarach y cymunedau, eu pobl a'u harferion.

Erthyglau Hanesyddol
  1. 'Historical Sketch of The Welsh Hills, Licking County',
  2. 'First Welsh Settlers in Gallia & Jackson Counties'.
  3. 'The First Church in Gomer, Ohio'

Rhoddir hanes mordaith Ezekiel Hughes, Edward Bebb a William Gwilym ar draws yr Iwerydd, yna'n prynu tir ac ymsefydlu yn Paddy's Run. Disgrifir sut y cliriodd William Gwilym y goedwig, a sut y buddsoddodd y teulu mewn cart dau geffyl a chastiadau bwrw haearn. Hefyd, rhoddir hanes yr ymsefydlwyr a ddilynodd yr arloeswyr, eu trafferthion cynnar, a'u golud dilynol.

Erthygl HanesyddolCeir yn y Cambrian erthyglau am sefydliadau, cymunedau, ac amryw gymdeithasau ar draws y Taleithiau Unedig. Yn y cyfrolau cynnar, galwodd y golygydd ar danysgrifwyr a darllenwyr eraill i gyfrannu gwybodaeth am eu cymunedau a'u hardaloedd eu hunain. Ymatebwyd i'r anogaeth hon gyda chyfraniadau pellach i'r cylchgrawn. Ymddangosodd erthyglau hanesyddol ar Gymdeithas Gymreig Philadelphia ac ar gymuned Mankato, Minnesota yn y rhifynnau canlynol.

Erthyglau bywgraffyddol.

Mae'r erthyglau bywgraffyddol yn elfen bwysig yn y Cambrian. Dyluniwyd tudalen flaen nifer o rifynnau gyda braslun o unigolyn. Mae enghreifftiau niferus o'r erthyglau hyn, yn flaenllaw yn holl rifynnau'r Cambrian. Ceir erthyglau am amrywiaeth o unigolion; arloeswyr Cymreig fel y Parch. Benjamin Chidlaw, Ohio, ffigyrau dylanwadol fel cyn-olygydd Y Drych, John W. Jones neu wyr busnes llwyddiannus megis T. C. Jenkins, cyfanwerthwr o Pittsburg, Pennsylvania.

Erthyglau bywgraffyddol
  1. 'Rev. B. W. Chidlaw, A. M.'
  2. 'Ezekiel Hughes, Esq.'
  3. 'Dr. Richard E. Jones, Gomer, Ohio.

Yn yr erthygl am T. C. Jenkins, gwelwn enghraifft dda o'r hyn sy'n nodweddiadol am y mathau hyn o'r erthyglau yn y Cambrian. Bron yn ddieithriad, byddai'r erthyglau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth bosibl am yr unigolion; eu man geni, lle buont yn byw, pwy oedd eu teuluoedd, a tharddiad y teulu (yn enwedig yng Nghymru). Yn anad dim, roedd yr erthyglau hyn yn ddathliad o lwyddiant y Cymry yn America. Molwyd eu menter busnes a'u haddasrwydd mewn bywyd crefyddol a theuluol. Dyma a ddywedir am T. C. Jenkins:

T. C. Jenkins"Y mae ym mhob ystyr yn wr llwyddiannus na dderbyniodd erioed ddoler o nunlle ac eithrio'i ymdrechion ei hun. Dywed na fu erioed yn amau na fyddai'n llwyddiannus yn rhywle."

Cyfeiriaduron y Cambrian

Er mai dros dro y cawsant eu cynnwys, elfennau pwysig o'r Cambrian oedd y cyfeiriaduron. Roeddynt yn nodweddion ar ddiwedd rhifynnau rhwng 1880 a 1886.

Eu pwrpas gwreiddiol oedd rhoi rhestr o Gymry proffesiynol, gwyr busnes o gymunedau penodol a myfyrwyr mewn nifer o brifysgolion. Er bod y cyfeiriaduron hyn yn ddibynnol ar gyfraniadau gwirfoddol gan unigolion yn eu cymunedau, tyfodd y rhestrau'n llawer hirach, weithiau'n cynnwys y nifer mwyaf o ymfudwyr Cymreig a oedd yn bosibl eu cofnodi o fewn cymuned.

CyfeiriadurMewn un enghraifft nodedig yn 1883, ceir rhestr o 26 unigolyn o Lansford, Sir Carbon, Pennsylvania. Nodir o ba le y buont ymfudo, a phan fo'n hysbys, pob man y buont yn byw ac addoli ers cyrraedd America. Roedd llawer yn chwarelwyr ac eraill yn fasnachwyr ac ymgymerwyr.

Roedd y cyfeiriaduron yn nodweddion pwysig o'r Cambrian. Eu bwriad oedd aduno teuluoedd a chyfeillion oedd ar wasgar ar draws y wlad, ac i lunio hanesion teulu byr. Daethant yn boblogaidd dros ben gan dyfu'n sydyn. Er nad ydynt o hyd yn llwyr gynrychioli cymunedau cyfan, maent o werth hanesyddol da i unrhyw unigolyn sy'n astudio hanes y Cymry yn America.

Erthyglau i bawb

DathliadauMewn blynyddoedd diweddarach, daeth y Cambrian yn gylchgrawn mwy darluniadol, a gwelir erthyglau ar ddathliadau Dydd Gwyl Dewi a Diwrnod Cymreig mewn cymunedau Cymreig yn America.

Un enghraifft nodedig yw'r erthygl "Welsh Day Celebrations", yn rhifyn Awst 1af, 1911. Yn yr erthygl hon, ceir manylion dathliadau yn Philadelphia a Scranton ym Mhennsylvania, ac yn Akron, Ohio. Ceir adroddiadau ar gorau a siaradwyr a'r holl amrywiaeth o gyfranwyr i'r wyl. Mae'n erthygl ddarluniadol yn ogystal; ceir cyfanswm o 8 portread neu lun ar draws y 4 tudalen. O'i gymharu â chyfrolau cynharach y Cambrian, digwyddiadau fel hyn a gâi'r sylw yn ei dudalennau. Dengys y newid nad cofnodydd yn unig mo'r Cambrian, ond ei fod hefyd yn ohebydd ar arferion cyfoes y Cymry yn America.

Dymunai'r Cambrian fod o ddiddordeb i bob unigolyn. Mewn adrannau megis "For the Young People" mae llenyddiaeth ffuglen yn ogystal â chyfarwyddyd crefyddol. Cyhoeddwyd awgrymiadau ffasiwn misol yn y "Mother and Daughters Department" gan May Manton.

Pwy oedd cynulleidfa'r Cambrian?

Roedd y Cambrian yn gylchgrawn i'r holl Gymry yn America, ac yn enwedig y rhai hynny na allai siarad, darllen na deall y Gymraeg.

Rhoddwyd, mae'n ymddangos, rolau i'r Cambrian ym mywyd teuluol Cymry America. Ar sawl achlysur, datgenir fod y Cambrian yn cael ei anelu at blant a'r ifanc. Ysgrifennodd Benjamin Thomas o Arkansas yn 1880:

Termau"Rhowch i'r plant, ein plant, ffeithiau yn ymwneud â'u cyndadau yn yr iaith y maent yn ei darllen."

Am gyfnod hir pan fu'n bosibl tanysgrifio i'r Cambrian a'r Drych gyda'i gilydd am $2.50, roedd Y Drych yn cael ei farchnatai'r rhieni, a'r Cambrian i'r plant. Fel yr awgrymir gan gynnwys y Cambrian, yr oedd yn gylchgrawn i'r teulu cyfan.

Llwyddiant y Cambrian

Cyhoeddwyd y Cambrian am gyfanswm o 39 mlynedd. Disgwyliad oes cyhoeddiadau Cymreig yn America yn yr un cyfnod oedd tua 4 i 5 mlynedd. Mae hyn yn brawf fod y Cambrian wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Goroesodd trwy galedi ariannol y 1890au, ond daeth diwedd anffodus i'w ran yn 1919, pan gododd pris llafur, papur a phostio yn sylweddol. Yn ei le, cyhoeddwyd colofn dros dro, Saesneg ei iaith, yn Y Drych yn 1920.

Nid oes amheuaeth, ysywaeth, am lwyddiant ac apêl eang y Cambrian. Llawenhau oedd Daniel Jones, sylfaenydd y cylchgrawn yn 1886 wrth ddatgan:

"Nid gor-ddweud yw bod y Cambrian wedi gwneud mwy i roi'r Cymry a'u llenyddiaeth gerbron y cyhoedd Americanaidd na phob papur a chylchgrawn Cymreig gyda'i gilydd; nid am fy mod yn hawlio rhagoriaeth gynhenid trostynt, ond am y ffaith syml y'i cyhoeddir yn Saesneg.

- The Cambrian, Cyf. 6 rhif. 11, t.315.

Beth yw pwysigrwydd y Cambrian heddiw?

Gwaddol y Cambrian yw ei gyfoeth o wybodaeth am y Cymry yn America. Gobeithir y bydd yr adnodd digidol newydd hwn yn pwysleisio gwerth y Cambrian trwy wneud y cynnwys yn chwiliadwy yn ôl perthnasedd y deunydd i bob talaith ar dir mawr America.

Bydd ar y wefan yn ogystal adran gyfan o ddeunyddiau chwiliadwy yn ymwneud ag Ohio, a bydd yn cynnig rhestrau cynhwysfawr o enwau personol ac enwau llefydd Ohio sydd yn y testun gan ddefnyddio'r adran Chwilio.

Yn sgil digido'r cylchgrawn hwn fel rhan o waith Project Cymru-Ohio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd gwefan ddwyieithog newydd yn cyflwyno bron i 19,000 delwedd o'i dudalennau i gynulleidfa fyd-eang. Mae'r Cambrian yn adnodd gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes a llenyddiaeth Gymreig yn America. Bydd hefyd o fudd i:

  • haneswyr teulu
  • haneswyr lleol
  • myfyrwyr
  • ysgolheigion

Dychwelyd i bori trwy'r Cambrian >>

Darllen Pellach:

  • Blackwell, H., A Bibliography of Welsh-Americana 2il arg. (Aberystwyth, 1977)
  • Evans, Paul De Mund, 'The Welsh in Oneida County, New York', Pennod IV (traethawd M.A. heb ei gyhoeddi, Prifysgol Cornell, 1914)
  • Aled Jones & Bill Jones, Welsh Reflections: Y Drych and America 1851-2001 (Llandysul, 2001)
  • Lewis, Idwal, 'Welsh Newspapers and Journals in the United States', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2 (Haf 1942)
  • Owen, Bob, 'Welsh American Newspapers and Periodicals', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 6 (Gaeaf 1950)
  • Roberts, D. H. E., 'Welsh Publishing in the United States of America', yn A Nation and its Books: A History of the Book in Wales, (Gol.) Philip Henry Jones and Eiluned Rees, (Aberystwyth, 1998)
  • Thomas, R. D., Hanes Cymry America (Utica, 1872).
  • Walters, Huw, Llyfryddiaeth cylchgronau Cymreig 1851-1900 (Aberystwyth, 2003)

Papurau newydd, cyfnodolion a chyhoeddiadau Cymreig yn America:

  • The American Celt
  • The Cambrian
  • Cambrian Gleanings
  • Y Cenhadwr Americanaidd
  • Y Cyfaill
  • The Druid/The Welsh American
  • Y Drych
  • Y Ford Gron
  • Y Glorian
  • Y Lamp
  • Y Wasg
  • Y Wawr
  • Yr Ymdrechydd

Dychwelyd i bori trwy'r Cambrian >>