English
» Adran Ohio


Pori yn ôl lleoliad:

Cliciwch y map i bori erthyglau fesul talaith.

The Cambrian: Cylchgrawn i Gymry America, 1880-1919.

Rhwng 1880 a 1919, The Cambrian oedd un o'r cylchgronau mwyaf poblogaidd ymysg Cymry America. Galwyd y cylchgrawn yn "gloddfa o wybodaeth ar hanes y Cymry yn America" gan y sylwebydd Bob Owen.

Yn ystod y 39 mlynedd hynny, casglwyd, mewn nifer o erthyglau a nodiadau, wybodaeth am filoedd o Gymry America, eu cymunedau a'u hanes. Mae llythyrau, barddoniaeth, hysbysebion, materion cyfoes ac erthyglau ysgolheigaidd hefyd i'w cael yn y Cambrian.

Yn sgil digido'r cylchgrawn hwn fel rhan o waith Project Cymru-Ohio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd y wefan hon yn cyflwyno bron i 19,000 delwedd o'i dudalennau i gynulleidfa fyd-eang. Mae'r Cambrian yn adnodd gwerthfawr i bob unigolyn neu grwp sydd â diddordeb yn hanes a llenyddiaeth Cymry America. Bydd hefyd yn fuddiol i:

  • haneswyr teulu
  • haneswyr lleol
  • myfyrwyr
  • ysgolheigion

Derbyniwyd nawdd sylweddol ar gyfer y wefan hon, yn ogystal â Gwefan Cymru-Ohio, gan Evan E. ac Elizabeth F. Davis, Oak Hill, Ohio.

Dysgu mwy am The Cambrian >>>